Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 11.05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Steve Clarke, Tenantiaid Cymru Mike Halloran, Tai Wales & West David Lloyd, TPAS Cymru Claire Maimone, Cartrefi NPT Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Porter, Tai Wales & West Linda Whittaker, Cartrefi NPT |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Nick Selwyn (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Clercod gael eglurhad pellach gan Gyngor Powys a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar nifer y swyddi gwag a pha adrannau oedd â'r swyddi 'anodd eu llenwi'.
2.1 Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Llythyr oddi wrth Jeremy Patterson, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys (7 Mai, 2015)
2.2 Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Gwybodaeth ychwanegol gan Rhondda Cynon Taf am ymadawiadau cynnar
2.3 Cadernid Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Llythyr gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (14 Mai 2015)
3 Diwygiad Lles: Sesiwn Dystiolaeth 3
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru a David Lloyd, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.
3.2 Cytunodd Steve Clarke i anfon ffigurau am nifer y tenantiaid dan 21 oed sydd ar hyn o bryd yn meddiannu eiddo un a dwy ystafell wely.
3.3 Pan oedd yr Aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd i Steve Clarke ddarparu nodyn ynglŷn â pham ei fod yn credu y dylai gweinyddu budd-dal tai gael ei ddatganoli.
4 Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 4
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Linda Whittaker, Prif Weithredwr, a Claire Maimone, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot (NPTHomes); Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Mike Halloran - Rheolwr Tai, Tai Wales & West ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.
4.2 Cytunodd Steve Porter i anfon manylion am faint o'r 200 o gartrefi sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely, a'r hyn y mae hynny'n cyfateb iddo fel canran y tai y mae Tai Wales & West yn eu hadeiladu ar hyn o bryd. Hefyd, faint o'r 1000 o gartrefi arfaethedig sydd i'w hadeiladu yn ystod y pum mlynedd nesaf fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely.
4.3 Cytunodd Jim McKirdle i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· polisi'r awdurdodau lleol ar gyfer trosglwyddo tai pan fydd gan denant ôl-ddyledion tai. Pan oedd yr aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd am gael gweld copi o'r cytundeb Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
· pa ddau awdurdod lleol sydd heb ymrwymo i'r cytundeb.
· un ar ddeg awdurdod lleol sydd â chynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol gan gynnwys y nifer arfaethedig o dai y maent yn dymuno eu hadeiladu.
· ffigurau ynglŷn â nifer y tenantiaid ag anableddau sydd wedi cael eu heffeithio a'u hail-leoli o ganlyniad i'r polisi.
· a yw awdurdodau lleol yn ystyried Lwfans Byw i'r Anabl wrth ystyried Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft yn amodol ar newid ar ddiwedd paragraff 2.